Mae gan Gymru bysgota rhagorol trwy gydol y flwyddyn – ond, yn dibynnu ar y rhywogaeth, mae rhai adegau o’r flwyddyn yn llawer mwy cynhyrchiol nag eraill.
Rhaid i chi hefyd ystyried bod yna reoliadau tymor caeedig cyfreithiol ar gyfer rhywogaethau dŵr croyw, sy’n gwahardd pysgota ar ddyddiadau penodol.
Mae ein siartiau tymor pysgota yn egluro cipolwg ar dymhorau caeedig, is-ddeddfau a rheolau pysgota. Maent hefyd yn dangos yr amseroedd pennaf i bysgota ar gyfer rhywogaethau allweddol o bysgod yng Nghymru.
Nodwch : Gall tymhorau pysgota gêm yng Nghymru fod yn destun amrywiad lleol. Cliciwch yma am fanylion rhanbarthol llawn.