Cyngor ar fioddiogelwch i bysgotwyr
Rhaid i bysgotwyr sy’n pysgota yng Nghymru neu’n ymweld â Chymru fod yn ymwybodol o fioddiogelwch bob amser. Mae’n bwysig iawn bod pysgotwyr yn golchi ac yn glanhau eu taclo i osgoi ymlediad parasitiaid, planhigion ymledol anfrodorol a rhywogaethau anifeiliaid a allai niweidio ein pysgota a’n hecosystemau.
Mae’r dudalen hon yn edrych ar gyngor bioddiogelwch i bysgotwyr a sut y gallwn helpu i atal difrod amgylcheddol.