Llyn Gwyn – Pysgota yng ngwlad y Mynachod
Gair: Ceri Thomas
Delweddau: Tim Hughes
Yng Nghymru rydyn ni’n cael ein bendithio â channoedd o lynnoedd naturiol, sy’n cynnig profiad pysgota o safon i’r rheiny sy’n chwilio am gamp mewn amgylchedd godidog. Fodd bynnag, mae’r mwyafrif ohonynt yn dal brithyll brown gwyllt yn unig ac felly ni ellir eu pysgota yn ystod misoedd y gaeaf. Er hynny, mae yna eithriad; Llyn Gwyn ger Rhayader. Fe’i rheolwyd gan y clwb genweirio lleol fel pysgodfa frithyll stoc, ac mae’r lleoliad gwledig deniadol hwn ar agor trwy’r flwyddyn ac yn derbyn tocynnau diwrnod.
Y Llyn Gwyn, lleoliad chwedlau
Cysylltwyd y Llyn Gwyn gyda sawl chwedl. Yn ôl un, dyma’r fynedfa i dir arallfydol Brenin y ‘gwerin deg’, Gwyn Ap Nudd, rhyfelwr Celtaidd brawychus sy’n ymddangos ym mytholeg Arthuraidd. Dywed un arall fod Sant Padrig wedi mynd heibio tra ar bererindod o Iwerddon, cweryla am grefydd gyda phentrefwyr, troi rhai i bysgod a menyw yn ‘ddynes wen’. Mae son hefyd y melltithiodd mynachod cyfagos Strata Florida brithyll y llyn pan ddinistriwyd eu Habaty yn y diwygiad. O ganlyniad, byddai’r pysgod yn crawcian y pob tro’r cant eu dal, fel rhybudd. Am amser hir ni fyddai unrhyw un yn bwyta’r pysgod o’r llyn.
Ar y pwnc yma, yn y 12fed Ganrif stociodd Sistersiaid lleol yr Abaty Cwm-Hir ddyfroedd Llyn Gwyn gyda math o garp gwyllt. Hwn fyddai bwyd pob dydd Gwener pan fyddai cig yn cael ei dynnu o fwydlen y mynachod Pabyddol. Mae’r carp hwn yn dal i fyw yn y llyn hyd heddiw, enghraifft brin o’r brîd carp cyffredin gwreiddiol ‘wildie’, sydd bron yn ddiflanedig mewn mannau eraill yn y DU. Yn ogystal â charp, mae’r llyn yn dal i ddal poblogaeth fach o frithyll brown brodorol sydd wedi bod yno erioed.
Caiff Llyn Gwyn ei redeg heddiw gan Gymdeithas Bysgota Dyffryn Rhayader & Elan, sydd yn stocio’r llyn yn bythefnosol, gydag enfysau 2 pwys neu fwy ar gyfartaledd. Yn ogystal ag enfysau safonol, mae blues a hyd yn oed brithyll euraidd wedi’u stocio i sicrhau amrywiaeth. Mae pysgod o ddeutu 5 pwys i 7 pwys hefyd yn cael eu cyflwyno’n rheolaidd i sbeisio pethau. Mae brownis triploid yn cael eu stocio’n flynyddol a’u hychwanegu at y rhai naturiol, sydd gallu cael eu dal yn pwyso hyd at 7 pwys 8 owns. Yma yn y dŵr ocsigenedig, clir ac oer, mae’r pysgod yn troi mewn i beiriannau ymladd o fewn wythnos neu ddwy, gan ddarparu camp heriol iawn.
Lleoliad unigryw a thawel
Fel lleoliad gwirioneddol brydferth, mae gan Lyn Gwyn awyrgylch dirgel amdano. Mae’r llyn yn eistedd mewn pant uchel, wedi’i amgylchynu gan fryniau gwyrdd tonnog, a glannau wedi’u gorchuddio â hesg, gweiriau a rhedyn. Mae ynys brydferth yn llawn goed yn cwblhau’r olygfa, gyda rhigol o goed pinwydd a thŷ cychod cerrig hynafol.
Mae’r 12 erw yn hawdd ei reoli, ac yn caniatáu rhyddid i bysgotwyr i grwydro a ffeindio gofod, heb iddo fod yn rhy fawr a dychryn pobl. Tardda Llyn Gwyn o rewlif rhyfeddol o ddwfn, hyd at 50 troedfedd yn y canol, ond mae’r ymylon yn gymharol fas, ac yn silffio, sy’n gwneud rhydio’n ddigon diogel. Mae tri chwch ar gael i’w llogi ac mae dau gwt pysgota a chyfleusterau ar y safle.
Ymweliad gaeaf
Roedd gen i a fy ffrind pysgota, Tim Hughes ,fwriad am amser hir i ymweld â’r llyn rhyw ddiwrnod yn gynnar ym mis Chwefror, a daeth cyfle o’r diwedd. Ar ôl ychydig o wythnosau oer pan gaeodd y ia a’r eira nifer o bysgodfeydd, cawsom gyfle gwych i fynd allan a thargedu enfysau preswyl Llyn Gwyn o’r lan.
Mae’n hawdd cyrraedd y llyn, gan nad yw’n bell oddi ar yr A470, y brif ffordd trwy Gymru. Ar ôl cyrraedd tua 9.30yb gwelsom fod y dŵr yn rhydd o rew. Gydag awel ysgafn ac amodau cymylog, roedd y llyn yn edrych yn addawol iawn. Roedd tymheredd y dŵr fodd bynnag yn oer iawn – rhwng 4 a 5 gradd yn ôl thermomedr Tim. Oherwydd hyn, dull ‘araf ac isel’ fyddai’r ffordd ymlaen, gyda’r pysgod yn annhebygol o fod yn fywiog iawn.
Yn hytrach nag Estyn ar unwaith am y llinellau suddo llawn, penderfynais ddechrau gyda llinell hedfan tomen suddo. Roedd gan y pryf pwynt (llith fritz du a gwyrdd) glain i’w angori. Ar y droppers rhoiais dau crensiwr du (nymffau bach). Y syniad oedd ymgripio’r pryfed yn ôl yn araf, gyda’r domen bwyntio a thip suddo yn angori’r pryfed i lawr yn y dŵr. O ran tacl, roeddwn i’n defnyddio gwialen hedfan 9’6 # 7, y ffurf berffaith ar gyfer pysgota llan ar lyn y maint yma.
Yn gyferbyniol, estynnodd Tim i’w fag am linell ben saethu canolradd gwydr cyflym, gydag atodiad o tippet 7 pwys a llith neidr fawr wyn a gwyrdd. Byddai Tim yn ceisio castio o bell ac yn adfer y pryf yn gyflym i ddenu streic. Dau ddull gwahanol – ond mae’r ddau’n gallu gweithio’n dda yn ystod misoedd y gaeaf.
Gwybodaeth leol sy’n werth gwrando arni
Mae bob amser yn werth siarad â physgotwyr eraill cyn i chi ddechrau pysgota – yng Nghymru rydych chi’n sicr o gwrdd â chymeriadau cyfeillgar ar y banc a fydd yn hapus i rannu gwybodaeth. Daethom ar draws genweiriwr lleol Roger Lewis (sydd hefyd yn feili’r clwb) a roddodd awgrymiadau gwych i ni. Cynghorodd i ni i roi cynnig ar ymylon yr ynys, ble mae’r tir yn silffio i ffwrdd i wneud dibyn o dan y dŵr. Esboniodd Roger ni fyddai’r pysgod yn debygol o fentro i ddŵr dyfnach y llyn heibio’r tŷ cychod yn y gaeaf. I brofi ei bwynt, aeth Roger ati i bysgota tu ôl yr ynys, ac ymhen dim, daliodd 3 physgodyn da yn olynol.
Profodd yr ardal hon i fod yn gynhyrchiol iawn. Pryd bynnag y cefais gast da o 20 llath allan i’r llyn daeth y brathau, ac yn fuan roeddwn yn chwarae gyda brithyll enfys a oedd yn ymladd ymhell uwchben ei bwysau o tua 3 pwys. Profodd y domen ganolradd i fod y dewis cywir; pe bawn i’n gadael i’r pryfyn suddo’n rhy hir, byddai wedi dal ar y dibyn creigiog. Felly byddai sinker llawn wedi bod yn wrthgynhyrchiol.
Roedd Tim hefyd wedi glanio ei bysgodyn cyntaf ar yr un dibyn – roedd y neidr werdd a gwyn wedi gweithio ar adferiad roly-poly. Ar ôl hanner awr galed aeth Tim yn ôl i’r car i gael fflasg o de i’w gynhesu, a rhoddais linell hirach allan wrth i’r gwynt tawelu. Ar y dibyn, tynnodd y llinell domen fach yn dynn ac roeddwn i mewn i bysgodyn da a ddechreuodd redeg oddi ar y rîl. Dechreuodd y llusgo ar unwaith wrth i’r pysgodyn hwn redeg yn hir ac yn gyflym, a bron â mynd â mi i’r berth. Ar ôl ychydig funudau o chwarae, teimlais y pysgodyn yn blino o’r diwedd ac estynnais am y rhwyd ar y clawdd y tu ôl i mi. Yr eiliad honno llaciodd y llinell a dihangodd y pysgodyn! Nid oeddwn yn gallu dyfalu pa fath o bysgodyn oedd hi, gan nad oeddwn wedi ei weld yn torri’r wyneb unwaith. Doeddwn i ddim yn gwybod sut gollais i hi, ond rhoddais syniadau o fynachod melltithiol nail ochr pan wiriais y pry a gweld bod y pwynt yn bwl. Rhaid bod ei wedi dal ar y dibyn. Y wers fan hon yw gwirio pwyntiau’ch bachyn a’u naddu os oes angen!
Penderfynom anelu am ochr arall yr ynys lle’r oedd ymwelydd rheolaidd Rob Davies yn pysgota mewn man llawer mwy cysgodol gyda llinell wynt pendant. Yma yr oedd deor o swnyn wedi ymgasglu, ac yn codi’n achlysurol i ddangos bod pysgod da yn yr ardal. Roedd Rob wrthi’n dal pysgod, un ar ôl y llall, 6 i gyd, yn defnyddio pryfed pry-cop ar linell arnofio.
Ymhellach i fyny’r lan ger postyn yn mynd i mewn i’r dŵr, cysylltais â physgodyn da a oedd wedi brathu fritz du a gwyrdd. Daeth hon yn glir o’r dŵr, brithyll enfys dywyll braf o tua 4 pwys – a ollyngodd y bachyn ar unwaith! Roedd melltith y mynachod wedi taro eto … Daeth pysgodyn arall (llai) a brathu b*gger blewyn cath wlanog a – llwyddiant! Pryd bynnag y newidiais liw’r llith, buodd tynnu a bwmpio, ond fe ddysgodd y pysgod yn gyflym a bu’n rhaid i mi newid pryfed eto i adnewyddu eu diddordeb. Roedd y cyffro i gyd yn nhyniadau cynta’r adfer, felly roedd yn rhaid i mi fod yn effro ac yn barod i weithredu’r eiliad i mi ddechrau symud y pryfed.
Wrth i Rob adael ei ofod a dechrau am adref, neidiodd Tim i mewn a daliodd ar unwaith enfys ar batrwm swnyn. Parhaodd y pysgod i godi yn achlysurol, ond roedd symudiad bach yn ongl y gwyntoedd ynghyd â’r pwysau pysgota wedi eu gwthio allan i’r tu hwnt i’n hardal castio. Cyn gorffen am y diwrnod, dychwelom i’r ochr wyntog am ychydig o ‘gastiau olaf’, ble daliom ambell enfys gryf arall.
Roedd hi wedi bod yn ddiwrnod allan difyr iawn, ac fe ddaliom digon o bysgod. Roedd y brithyll i gyd mewn cyflwr gwych, gydag esgyll llawn ac yn ymladd yn galed. Mae Llyn Gwyn yn cynnig rhywbeth nad ydych yn ei gael gyda physgodfa ‘twll yn y ddaear’ – golygfeydd bendigedig ac awyrgylch gwyllt, hanesyddol go iawn. Rwy’n argymell yn gryf i chi wneud pererindod i Lyn Gwyn os ydych chi byth yn yr ardal. Heb os, byddwn n’n dychwelyd i gael tro arall arni yn ddiweddarach yn y tymor, pan fydd pethau wedi cynhesu.
Ffeil-o-ffaith Pysgodfa Llyn Gwyn
Trwydded Diwrnod £ 20 (gan gynnwys dal a rhyddhau)
Trwydded tymor £ 120
Diwrnod cychod: £ 10
Mae gan y bysgodfa lwyfannau sy’n cynnig mynediad i bysgotwyr anabl.
Trwyddedau ar gael gan:
D. Powell, Siop Papur Newydd, Heol Gorllewin, Rhayader. Ffôn: 01597 810451
Trwyddedau Cwm Elan: Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan 10am – 5.30pm. Ffôn: 01597 810898
Cychod a Thrwyddedau Llyngwyn: Fferm Nantymynach, ger. Llyngwyn. Ffôn: 01597 810491
Am fwy o wybodaeth cysylltwch â Tom Jones yn hafodhardware@btconnect.com neu ewch at www.rhayaderangling.weebly.com
Pysgota plu ar gyfer Carp yng Nghymru gan Steffan Jones
Mae pysgotwyr yn aml yn gynnyrch hamgylchedd. Nid wyf erioed wedi deall snobyddiaeth at rywogaethau, oherwydd yn aml, y man…
Darllen mwyPysgota Brithyll yn y Bannau Brycheiniog - 5 Llynnoedd Pysgota Plu Anhygoel.
Mae Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog yn cynnwys rhai o’r ardaloedd ucheldir mwyaf eiconig yn Ne Cymru, gyda’u bryniau crwn nodedig,…
Darllen mwy